1.  Rhagarweiniad

1.1 Mae’r Pwyllgor wedi cydnabod y materion sy’n wynebu S4C, sut mae cyllido a llywodraethu’r Sianel ond, rydym yn credu y dylai’r materion yma gael eu hystyried mewn cyd-destun ehangach. Mae’r cyflwyniad hwn felly, tra’n ymdrin â’ch gofynion manwl lle bo hynny’n berthnasol, yn delio ar y cyfan â materion ehangach rydym yn gwahodd y pwyllgor i’w hystyried.

1.2 Sefydlwyd S4C i ddarparu gwasanaeth teledu yn Gymraeg. Ond, mae symlrwydd y disgrifiad yma yn cuddio’r rhwydweithiau cymhleth o wleidyddiaeth a thensiwn cymdeithasol a arweiniodd at ei greu. Fe dderbyniodd llywodraeth y DU yn y pen draw bod angen gwneud iawn am farchnad oedd yn methu ac fe gafwyd ateb oedd yn parchu hawliau siaradwyr Cymraeg i gael eu bywydau wedi eu cynrychioli a’u portreadu yn well ar brif gyfrwng gweledol y cyfnod.

1.3. Mae’r cyfryngau heddiw yn edrych yn wahanol iawn. Yn y byd digidol sydd ohoni, mae cynnyrch print, sain a fideo yn rhannu’r un platfformau dosbarthu. Mae’r rhan fwyaf o’r rhyngweithio rhwng y llywodraeth, cyrff cyhoeddus, y sector breifat ac unigolion bellach yn ddigidol. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi datblygu i fod yn flanced sy’n cael ei thaenu dros bob agwedd o fywyd cymdeithasol a diddordebau pobl. Mae’r cymunedau digidol sy’n ymddangos wedi creu byd newydd lle mae’r teledu yn gorfod brwydro am ei le.

1.4. Mae platfformau digidol wedi golygu trefn byd newydd o ran cynnwys. Mae globaleiddio wedi arwain at gewri busnes newydd sy’n annhebyg o ystyried anghenion Cymru, heb sôn am yr iaith Gymraeg. Mae datblygiadau digidol yn cynnig cyfleoedd i gyflwyno cynnwys a thyfiant economaidd. Mae angen sefydlu strwythurau sy’n rhoi llais digonol i Gymru yn y datblygiadau yma.

1.5 Byddai’r ffactorau yma yn unig yn golygu y byddai’r S4C a sefydlid heddiw yn annhebyg iawn i’r un sydd gennym. Rydym o’r farn bod yr adolygiad yma yn gyfle i greu corff newydd gwell sy’n gymwys i’r oes ddigidol, gan gyfuno gwasanaethau presennol Cymraeg eu hiaith a gwasanaethau sy’n cael eu cyllido gan lywodraethau Cymru a’r DU.

2.  Cylch Gwaith S4C

2.1. Rydym yn credu mai prif orchwyl S4C ddylai fod creu cynnwys i ddarparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg ac wrth wneud hynny gynnal a meithrin yr iaith Gymraeg a’r cymunedau. Nid yw ei strwythur, cyrhaeddiant na’i adnoddau presennol yn gymwys i’r swyddogaeth honno. Mewn byd digidol nid yw’r teledu ei hun yn ddigon.

2.2 Mae gan y llywodraeth strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg sy’n cael ei derbyn yn gyffredinol ar hyd a lled Cymru. Mae hyn yn cadarnhau ein bod yn wlad ddwyieithog ac mae angen cefnogaeth a hwb ar yr iaith Gymraeg er mwyn i’r iaith allu chwarae rhan briodol ym mhob agwedd o fywyd Cymru. Mae’r hen frwydrau dros yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mwy neu lai yn rhan o’r gorffennol ac yn codi eu pen yn bennaf pan fo anghydfod am beth sy’n bosib i’w gyflawni. Mae addysg cyfrwng Gymraeg wedi bod yn llwyddiant oherwydd y dewisiadau gan rieni, y rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg yn gymaint â’r rheiny sy’n rhugl.

2.3 Y byd digidol yw’r diwylliant byd eang cyntaf ac mae’n creu amgylchfyd sy’n creu trafferthion i bob iaith. Saesneg yw iaith yr oes ddigidol ac mae’n cael effaith ar bob iaith yn enwedig y rheiny nad ydynt yn hanesyddol yn cael eu hystyried yn ieithoedd rhyngwladol. Nid gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn unig mwyach sy’n dioddef o fethiant yn y farchnad. Fodd bynnag, mae angen atebion newydd i’r methiannau yna heddiw.

2.4 Mae’n llywodraethau wedi gweld yn angenrheidiol ac yn dda i roi cymorth ariannol i ystod eang o wasanaethau a chynhyrchion Cymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys teledu, radio a ffilmiau, llyfrau, papurau newydd, yr Urdd, deunyddiau addysgol a’r celfyddydau. Rhoddwyd cyllid i fentrau cymunedol hefyd, yn arbennig y Mentrau Iaith.

2.5 Credwn fod yna ddadl dros ddwyn ynghyd y gosod strategaeth, cyllido a chyflwyno’r cynhyrchion a’r gwasanaethau hyn. Byddai’r strategaeth hon a fyddai’n fwy cydlynol yn gwasanaethu anghenion y Cymry a’r iaith yn well. Gall amrywiaeth y ffynonellau cyllid a’r gwahanol ofynion o ran llywodraethu greu anawsterau ond anawsterau gwleidyddol fyddai’r rheiny’n bennaf yn hytrach na rhai ymarferol.

2.6 Mae sawl maes y gellid ystyried eu cynnwys yma:

Nid yw cael S4C yn gofalu am deledu a’r BBC yn gofalu am Radio Cymru yn gwneud dim synnwyr a dylai’r ddau wasanaeth ddod ynghyd o dan S4C.

Mae’r diwydiant ffilm Cymraeg yn cael ei gefnogi’n uniongyrchol lle’n briodol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i strategaeth economaidd ehangach ar gyfer ffilm. Mae’n ddealladwy mai dim ond yn achlysurol iawn y gellir gwneud achos economaidd dros ffilmiau Cymraeg eu hiaith a byddai S4C newydd mewn lle gwell i benderfynu pa brosiectau sy’n haeddu cefnogaeth.

Caiff deunydd clyweledol arall, am resymau hanesyddol, gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bu’r Papurau Bro ymhlith y cynlluniau mwyaf llwyddiannau o ran yr iaith Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf. Gallai strategaeth ddigidol a chefnogaeth ganolog i’r cynnwys fod y cam mawr nesaf i’r sector hon. Mae’r Papurau Bro wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau ac felly y dylent aros ond gyda chymorth gallent fod gymaint yn fwy llwyddiannus.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi methu â chyflwyno strategaeth ddigidol gydlynol a gallai gael ei le yn hawdd mewn corff newydd. Bu llyfrau a phapurau newydd Cymraeg yn araf yn symud i’r cyfrwng digidol. Mae hyn yn annerbyniol mewn diwydiannu lle mae systemau dosbarthu’r dyfodol yn ddigidol. Mae’r potensial i wella traws-hyrwyddo a chydlyniant mor fawr fel bod angen gweithredu ar frys.

Mae’r systemau addysg i gyd yn symud tuag at y defnydd o gynnwys digidol a chlyweledol. I’r iaith Gymraeg, bydd costau ac anawsterau darparu cynnwys o safon cystal â’r Saesneg yn mynd yn broblem gynyddol. Yn y cyfamser, mae S4C ers blynyddoedd wedi cael llwyddiant mawr gyda rhaglenni i’r plant iau ond yn gyffredinol nid yw’r cynnwys hwnnw’n rhan o’r cwricwlwm ysgol. Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru’n comisiynu cynnwys addysgol fe y bo’r angen i ddiwallu ei anghenion. Mae’r potensial i gydlynu yma yn amlwg ond gall fod yn fwy cost-effeithlon ac yn cynnig cynnwys gwell pe bai’r S4C newydd yn gorfod darparu cynnwys sy’n fwy agos at y maes llafur, ac yn cael cyfrifoldeb dros gomisiynu cynnwys addysgol arall hefyd.

Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwarae rhan amlwg yn y celfyddydau Cymraeg. Serch hynny, mae’r celfyddydau yn gonglfaen pwysig i’r diwylliant Cymraeg ei iaith ehangach hefyd ac eto byddai ymagwedd gydlynol yn gallu cyflwyno manteision yn y tymor hir. Er enghraifft, mae llawer o’r celfyddydau yng Nghymru yn y byd amatur ac yn cael eu cyflwyno gan grwpiau lleol drwy eisteddfodau, yr Urdd a’r Mentrau Iaith. Mae S4C eisoes yn bwysig iawn o ran arddangos a hyrwyddo’r digwyddiadau hyn. Pam na all ei gylch gwaith gynnwys y materion hyn, eu strategaeth a’u cyllid.

Rydym yn ffodus fod corff cyhoeddus yn bodoli’n barod, sef S4C, a all esblygu i gynnwys y meysydd eraill hyn yn ei gylch gwaith.

3.  Llywodraethu

3.1 Ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos fod materion llywodraethu dybryd o anodd i ddelio â nhw wrth greu corff newydd ar hyd y llinellau a ragwelwn. Ond credwn mai arwynebol ar y cyfan yw’r pryderon am lywodraethu ac y gellir ymdrin â nhw’n gymharol hawdd.

3.2 Nid yw’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn gweithio’n dda beth bynnag. Nid yw setliad datganoli presennol y DU wedi cynnwys trefniadau boddhaol ar gyfer rheoli gwasanaethau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (DGC). Ni chafodd y llywodraethau datganoledig newydd eu cydnabod na’u cynrychioli. Nid oes unrhyw sefydliad darlledu wedi bod yn uniongyrchol atebol i bobl Cymru.

3.3 Ychydig iawn o ystyriaeth o effaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus y mae’r trefniadau llywodraethu presennol yn eu cymryd o gynifer o elfennau o fywyd Cymru - yn wleidyddol, diwylliannol, addysgol ac economaidd - y mae Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb drostynt. Nid oedd y trefniant hwn yn gynaliadwy. Mae’r achos dros ail-gyflunio pwerau a chyfrifoldebau i roi mwy o lais i bobl Cymru i benderfynu ar ofynion a monitro cyflawni DGC yng Nghymru wedi’i gydnabod bellach, o leiaf yn achos y BBC gyda’r Siarter newydd.

 

3.4 Nid yw darlledu wedi’i ddatganoli ac nid oes consensws gwleidyddol i wneud hynny. Mae’r cyllid i’r gwasanaethau a’r cynhyrchion a restrwn uchod yn amrywiol a chymhleth. Caiff ei gyflenwi gan ddwy lywodraeth, y BBC a gan weithgareddau masnachol. Darperir y cyllid drwy drefniadau tymor hir megis ffi trwydded y BBC a chyllid tymor byr sy’n amrywio mewn hyd a sicrwydd gan y llywodraeth ganolog  a nifer o adrannau Llywodraeth Cymru, weithiau gan gyrff hyd braich fel Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Mae gan Ofcom rôl hefyd fel rheoleiddiwr.

3.5 Nid oes raid i ddatod y buddiannau gwahanol hyn fod yn broblem fawr ac os yw’r strwythurau iawn yn cael eu gosod yn eu lle, gellir cyflwyno elfennau gwahanol y corff newydd yn raddol dros amser.

3.6 Fel y mae ar hyn o bryd, mae gan S4C broblemau llywodraethu sydd angen eu datrys ar frys. Mae’r trefniadau presennol rhwng y DCMS, y BBC, Ofcom, Llywodraeth Cymru ac S4C yn cael eu trafod oherwydd bod angen trafodaeth gyhoeddus am weithredu Siarter newydd y BBC ac mae’r DCMS wedi ymrwymo i gynnal adolygiad pellgyrhaeddol o S4C.

3.7 Ni ddylid gadael i’r un o’r trafodaethau hyn anwybyddu’r angen am gyllid digonol a chynaliadwy i wasanaeth teledu S4C. Cynnwys teledu traddodiadol, sut bynnag y’i dosberthir, fydd prif ffordd pobl o gael cynnwys am y dyfodol rhagweladwy. Bydd gwasanaeth teledu Cymraeg ei iaith yn aros wrth galon diogelu, cynnal a datblygu’r iaith.

3.8 Ar hyn o bryd daw cyllid i S4C gan drwydded y BBC, y DCSM, gweithgareddau masnachol S4C a’i gronfa fasnachol, a adeiladwyd o fuddsoddiadau masnachol blaenorol. Er bod lefel y cyllid yn mynd i aros yn bwnc llosg, nid yw’r ffynhonnell yn creu unrhyw gyfrifoldebau neu anawsterau llywodraethu y tu hwnt i’r rheiny sydd gennym yn barod. Eisoes mae materion llywodraethu sy’n effeithio ar y berthynas rhwng llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Ofcom a’r BBC sydd angen eu trafod a’u datrys.

-        Mae rôl aelod Bwrdd newydd y BBC i Gymru yn dra gwahanol i sut yr oedd o dan y trefniadau blaenorol. Mae’n fwy na phwynt arwynebol fod y person yn cael ei benodi gan y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor. Mae gan Lywodraeth Cymru ran yn y broses benodi ac mae’n rhaid i’r penodiad gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru yn ogystal â’r DCMS. O dan y Siarter newydd mae rhwymedigaethau corfforaethol newydd gan y BBC i Gymru. Mae yna hefyd gyfrifoldebau unigol i’r aelod Bwrdd newydd o ran y llywodraeth hon a’r Cynulliad. Rhagwelir gwrthdaro rhwng cyfrifoldebau’r unigolyn i Gymru ac i’r BBC drwy’r trefniadau hyn er nad oes ateb hawdd wedi cael ei awgrymu. Bydd y gweithio agos a’r berthynas gyllido rhwng y BBC ac S4C yn cyfrannu at y gwrthdaro cyfrifoldebau yma.

-        Bydd gan Ofcom gylch gwaith penodol Gymreig hefyd yn cwmpasu rheoleiddio traddodiadol a  bellach yn sicrhau fod y Drwydded Wasanaeth i Gymru yn cael ei chyflwyno gan y BBC. Bydd yr ail elfen yn ymestyn, er enghraifft, i sicrhau fod y BBC yn dwyn buddion economaidd i Gymru fel ag yr addawyd gan y BBC. Mae’n debyg y bydd angen cymryd agwedd debyg gyda S4C fel rhan o’i drefniadau cyllido a bydd angen i Ofcom fonitro hyn.

-        Gydag ymagwedd ymgynghorol a rheoleiddiol i Drwyddedau Gwasanaeth y BBC, nid yw’n ymarferol fod y materion hyn o safbwynt gwasanaethau’r iaith Gymraeg yn cael eu gadael yn llwyr i Awdurdod S4C. Nid oes ond angen ystyried beth allai fod gofyn i’w gwasanaethau eu gwneud i ddangos hyn. Gallai’r rhain gynnwys:

-        Nifer yr oriau darlledu ar y teledu sydd eu hangen i gynnal gwasanaeth llawn

-        Y mathau o raglenni i’w gwneud, yn ôl genre, o bosibl

-        Diffinio’r gwasanaethau newyddion a materion cyfoes sydd eu hangen

-        Gwasanaethau ar-lein

-        Portreadu pobl ledled Cymru

-        Gofynion effaith economaidd

-        Ymrwymiadau i hyfforddi a datblygu sgiliau yn y diwydiant

-        Ymrwymiadau ynghylch y berthynas rhwng y gwasanaethau a’r system addysg yng Nghymru.

-        Ymrwymiadau ynghylch y berthynas rhwng gwasanaethau S4C a pholisi Llywodraeth Cymru (a rhwymedigaethau cyfraith ryngwladol y DU) o ran hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg

4.  Casgliad

4.1 Yn y dyfodol rydym yn mynd i weld ymagwedd lywodraethu lawer mwy haenog i ddarlledu ac mae’r cwestiwn a fydd yn cael ei datganoli’n ffurfiol yn llai pwysig nag y mae pobl yn credu. Bydd y strwythurau sydd yn eu lle yn barod yn gofyn i lywodraethau Caerdydd a Llundain, y BBC a S4C, ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio. 

4.2 Mae cadw’r trefniadau llywodraethu sydd eu hangen gan y llywodraeth ganolog, y BBC yn ganolog ac Ofcom a chydbwyso hyn ag anghenion llywodraethu Cymru eisoes yn broblem p’un ai bod S4C yn aros fel y mae neu’n datblygu’n gorff sy’n fwy perthnasol i anghenion ehangach Cymru.

4.3 Mae S4C wedi ei ailstrwythuro sy’n atebol mewn ffordd wahanol efallai i’w amrywiol gyllidwyr a rheoleiddwyr, ei ddau noddwr llywodraeth ac i bobl Cymru, yn bosibl. Gallai corff o’r fath sy’n cydlynu strategaethau a gofynion ei randdeiliaid fod yn drawsnewidiol wrth gau’r bylchau sy’n ymddangos rhwng yr iaith Gymraeg a’r byd modern. Nid yw teledu yn ddigon mwyach. Nid yw S4C fel y mae yn ddigon mwyach. Mae pawb sydd wrthi’n trafod y materion hyn yn honni eu bod yn gweithio i gael y gwasanaethau gorau posibl i Gymry Cymraeg ac i Gymru. Mae’r ateb gorau yn golygu dwyn ynghyd strategaeth, gwasanaethau a chynhyrchion, cyllid a llywodraethu.